Tregaron – Tref farchnad fechan sy’n swatio wrth droed Mynyddoedd Cambria, rhwng y mynyddoedd a Bae Ceredigion. Yn wir gellid cyfeirio ato fel diffeithwch olaf Cymru, gyda’i dirlun fynyddig a’i awyr dywyll, ddramatig yn atyniad poblogaidd iawn i’r ymwelydd heddiw. Enwyd y dre ar ôl Nawdd Sant yr Eglwys leol sef Sant Caron a fu farw yn 219 AD. Tregaron yw’r unig dref yng Ngheredigion na sefydlwyd yn rhan o gastell neu aneddle milwrol. Yn 1292 derbyniodd y farchnad Siarter Brenhinol. Mae’r farchnad yn ffynnu heddiw gan denu ffermwyr o bell ac agos. Enillodd y dref enw da am ei marchnadoedd enwog a roedd Bwlch Abergwesyn yn lwybr naturiol i’r porthmyn yrru eu anifeiliaid i farchnadoedd Llundain. Sefydlwyd un o’r banciau cyntaf yn y Sir yn Nhregaron, sef Banc y Ddafad Ddu. Tregaron hefyd oedd lle geni Thomas Jones neu Twm Sion Cati a gyfeiriwyd ato fel y ‘Robin Hood’ i’r Cymry. Saif cerflun enwog arall ar y Sgwar sef Henry Richard a ddaeth yn Aelod Seneddol dros Merthyr Tudfil. Roedd yn ddyn blaenllaw yn sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd, a adawenir heddiw fel y Cenhedloedd Unedig.
1017-19 – Dyddiad bras Eglwys y Plwyf cyntaf
1188 – Archesgob Baldwin a Gerald Cambrensis yn teithio trwy Tregaron are eu ffordd i Ystrad Fflur
1292 – Derbyniodd Tregaron siarter gan Edward I i gynnal marchnad wythnosol
1536-8 – Ymweliad John Leland
1609 – Cyhoeddwyd ewyllys Twm Sion Cati, Fountain Gate.
1653 – Dechreuwyd Llyfr Gwyn Caron, cofrestr felwm Eglwys y Plwyf.
1744 – Pregethodd William Williams o dan y goeden dderwen yn ‘Tanrallt’
1774 – Adeiladwyd Capel Bwpchgwynt
1805 – Adfer Eglwys Sant Caron
1812 – Ganwyd Henry Richard yn ‘Ty Gwyn’.
<
1841 – Chwalwyd y tollborth yn ystod Terfysgoedd Beca.
1848 – Claddwyd eliffant o ‘Batty’s Touring Menagery’ tu ol I’r Talbot
1855 – Agorwyd y Swyddfa Bost
1859 – Sefydlwyd yr Ysgol Brydeinig
1866 – Agorwyd Rheilffordd Manchester and Milford
1864 – Sefydlu Cymdeithas y Cwch Gwenyn (cymdeithas gyfeillgar)
1873 – Agorwyd yr Ysgol Genedlaethol
1876 – Cofnod cyntaf o Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron
1879 – Ailadeiladwyd corff yr Eglwys ar ffurf Gothig
1888 – Bu farw Henry Richard AS
1890 – Sefydlwyd Band Pres Tregaron
1893 – Dadorchuddio cerflun Henry Richard
1897 – Agor Ysgol Sir Tregaron
1913 – Agor Ysgol Gynradd Newydd
1918 – Arwerthiant Ystad Sunnyhill mewn ocsiwn 3 diwrnod.
1920’s – Gwyddonwr o’r Almaen yn archwilio am nwy ar Gors Caron
1949 – Sefydlwyd Clwb Ffermwyr Ifanc Tregaron
1960’s – Daeth Tregaron yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer gwyliau merlota
1966 – Y tren olaf yn teithio drwy Tregaron yn dilyn bwyell Dr Beeching
1966 – Cynhaliwyd yr Wyl Cerdd Dant
1976 – Tregaron yn cyrraedd y tudallennau blaen gyda’r newyddion am ‘Operation Julie’ a’r ffatri LSD.
1999 – Tregaron twins with Plouvien in Brittany
2000 – Agorwyd Canolfan Treftadaeth Tregaron (Amgueddfa a Chanolfan y Barcud)
2022 – Croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i Dregaron